Proverbs 4

Cyngor i bobl ifanc

1Blant, clywch beth mae'ch tad yn ei ddysgu i chi.
Gwrandwch, i chi ddysgu sut i fod yn ddoeth.
2Dw i'n dysgu beth sy'n dda,
felly peidiwch troi cefn ar beth dw i'n ddweud.
3Roeddwn i'n blentyn ar un adeg,
yn unig blentyn, ac yn annwyl iawn yng ngolwg mam.
4Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i,
“Dal dy afael yn yr hyn dw i'n ddweud;
Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da.
5Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn;
paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i'n ddweud.
6Paid troi cefn ar ddoethineb – bydd hi'n dy warchod di;
os gwnei di ei charu, bydd hi'n dy amddiffyn di.
7Mynna fod yn ddoeth o flaen popeth arall!
Petai'n costio popeth sydd gen ti – mynna ddeall.
8Os byddi'n meddwl yn uchel ohoni, bydd hi'n dy helpu di;
cofleidia hi, a bydd hi'n dod ag anrhydedd i ti.
9Bydd yn gosod torch hardd ar dy ben;
coron fydd yn dy anrhydeddu di.”
10Fy mab, gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud,
a byddi di'n cael byw yn hir.
11Dw i wedi dy ddysgu di i fod yn ddoeth;
ac wedi dy osod di ar y llwybr iawn.
12Byddi'n cerdded yn dy flaen yn hyderus;
byddi'n rhedeg heb faglu o gwbl.
13Dal yn dynn yn beth wyt ti'n ddysgu, paid gollwng gafael.
Cadw'r cwbl yn saff – mae'n rhoi bywyd i ti!
14Paid dilyn llwybrau pobl ddrwg;
paid mynd yr un ffordd â nhw.
15Cadw draw! Paid mynd yn agos!
Tro rownd a mynd i'r cyfeiriad arall!
16Allan nhw ddim cysgu heb fod wedi gwneud drwg.
Maen nhw'n colli cwsg os nad ydyn nhw wedi baglu rhywun.
17Drygioni ydy'r bara sy'n eu cadw nhw'n fyw,
A thrais ydy'r gwin maen nhw'n ei yfed!
18Mae llwybr y rhai sy'n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr,
ac yn goleuo fwyfwy nes mae'n ganol dydd.
19Ond mae ffordd pobl ddrwg yn dywyll;
dŷn nhw ddim yn gwybod beth fydd yn eu baglu nhw.
20Fy mab, gwrando ar beth dw i'n ddweud;
gwrando'n astud ar fy ngeiriau.
21Paid colli golwg arnyn nhw;
cadw nhw'n agos at dy galon.
22Maen nhw'n rhoi bywyd i'r un sy'n eu cael,
a iechyd i'r corff cyfan.
23Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall,
achos dyna ffynhonnell dy fywyd.
24Paid dweud celwydd;
paid dweud pethau i dwyllo pobl.
25Edrych yn syth o dy flaen,
cadw dy olwg ar ble wyt ti'n mynd.
26Gwylia'r ffordd rwyt ti'n mynd,
a byddi'n gwneud y peth iawn.
27Paid crwydro i'r dde na'r chwith;
cadw draw oddi wrth beth sy'n ddrwg.
Copyright information for CYM